Free Safeguarding Webinar for Trustees in Wales
A Safeguarding Week webinar for trustees in Wales
Tuesday 14 November 2023 - 2pm - 3pm (Online)
Aim
This special webinar for Safeguarding Week in Wales is an introduction to safeguarding responsibilities for charity trustees.
Safeguarding should be a governance priority for all charities. Good and appropriate safeguarding provides public reassurance about your organisation and contributes to the positive reputation of the sector in general.
Content
The Charity Commission states that, ‘As part of fulfilling your trustee duties, whether working online or in person, you must take reasonable steps to protect from harm people who come into contact with your charity.’
Join WCVA’s Governance and Safeguarding Team for an introduction to safeguarding for charity trustees. This webinar will cover the Charity Commission guidance, what charities are expected to have in place and best practice in safeguarding. There will be time at the end of the webinar for questions.
Learning outcomes:
• Increased awareness of trustee safeguarding responsibilities
• Increased knowledge of Charity Commission guidance
• Increased awareness of how to implement best practice in your charity
• Increased knowledge of how to ensure your board recruitment is safe
Who this webinar is for?
This webinar is primarily for charity trustees but will also be of interest to senior staff and safeguarding leads.
About WCVA:
WCVA is the national membership body for voluntary organisations in Wales. We exist to enable voluntary organisations in Wales to make a bigger difference together.
BOOK THIS EVENT - https://www.eventbrite.co.uk/e/webinar-safeguarding-for-trusteesgweminar-diogelu-ar-gyfer-ymddiriedolwy-tickets-749283466017?aff=oddtdtcreator
Gweminar Wythnos Ddiogelu ar gyfer ymddiriedolwyr yng Nghymru
Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 – 2pm – 3pm
Nod
Mae’r weminar arbennig hon ar gyfer Wythnos Diogelu Cymru yn gyflwyniad i gyfrifoldebau diogelu ymddiriedolwyr elusennau.
Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth lywodraethu i bob elusen. Mae diogelu da a phriodol yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd ynghylch eich mudiad ac yn cyfrannu at enw da’r sector yn gyffredinol.
Cynnwys
Mae’r Comisiwn Elusennau yn nodi, “Fel rhan o gyflawni’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr, boed yn gweithio ar-lein neu wyneb yn wyneb, mae’n rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddiogelu rhag niwed, y rhai sy’n dod i gyswllt â’ch elusen.”
Ymunwch â Thîm Llywodraethu a Diogelu CGGC am gyflwyniad i ddiogelu ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau. Bydd y weminar hon yn ymdrin â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, beth y disgwylir i elusennau ei gael yn ei le ac arferion gorau mewn diogelu. Bydd amser ar ddiwedd y weminar am gwestiynau.
Canlyniadau dysgu:
• Mwy o ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu ymddiriedolwyr
• Mwy o wybodaeth am ganllawiau’r Comisiwn Elusennau
• Mwy o ymwybyddiaeth o sut i roi arferion gorau ar waith yn eich elusen
• Mwy o wybodaeth am sut i sicrhau bod eich prosesau recriwtio bwrdd yn ddiogel
I bwy mae’r weminar?
Mae’r weminar hon i ymddiriedolwyr elusennau yn bennaf, ond bydd hefyd o ddiddordeb i staff uwch ac arweinwyr diogelu.
Ynglŷn â CGGC:
CGGC yw’r corff cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, a’i bwrpas yw galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd