Hyfforddiant cymorth ariannol ar-lein 3 awr am ddim – a mwy
Cafwyd egwyl fer y llynedd o prosiect llwyddiannus iawn Dangos ymwybyddiaeth o faterion ariannol ar gyfer gweithwyr rheng flaen yng Nghymru.
Eleni, mae rownd arall o Dangos, ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar fin dechrau – yn fwy ac yn well.
Gan ddechrau gyda’r cyrsiau sylfaenol a chanolradd wedi’u diweddaru, byddwn hefyd yn cynnig sesiynau pwrpasol cyn bo hir:
• Cefnogaeth i blant a phobl ifanc
• Cefnogaeth i bobl hŷn
• Cefnogaeth i’r rhai sydd angen gofal
Mae'r sesiynau canolradd hyn wedi'u cynllunio ar gyfer pobl sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth a'u hymarfer presennol. Dydyn nhw ddim wedi’u cynllunio i droi pobl yn gynghorwyr ond maen nhw’n wych ar gyfer pobl sydd wedi mynychu’r cyrsiau sylfaenol neu sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd angen cymorth ers tro.
Nod Dangos yw cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gweithwyr rheng flaen ynghylch y cymorth sydd ar gael. Hynny yw, pobl sydd mewn cysylltiad o ddydd i ddydd â theuluoedd y gall fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw, pa un a ydyn nhw’n weithwyr cyflogedig neu’n wirfoddolwyr.
Dydyn ni ddim yn mynd i geisio gwneud pobl yn arbenigwyr neu’n gynghorwyr ar fudd-daliadau yn unrhyw un o’r sesiynau, dim ond rhoi mwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth iddyn nhw am ba gymorth sydd ar gael ac awgrymiadau ynghylch annog pobl i fanteisio ar eu hawliau.
Bydd ein sesiynau ar-lein rhad ac am ddim i weithwyr rheng flaen ledled Cymru yn dechrau ym mis Mawrth 2025 ac yn parhau i mewn i 2026. Bydd pob sesiwn yn dair awr o hyd, yn rhyngweithiol iawn, yn cael eu hategu gan becyn gwybodaeth byr, ac i’r rheiny sydd ei eisiau, mynediad am ddim at gyrsiau e-ddysgu manylach am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru a sut mae’n gweithio.
Bydd y sesiynau a’r pecyn gwybodaeth yn cael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â rhai o’r cyrsiau eddysgu. Bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu cyflwyno yn Zoom, Google Meet ac yn Microsoft Teams. Bydd amseriad a phatrwm y cyrsiau hyn yn dibynnu ar y galw.
Byddwn hefyd yn falch o ddarparu cyrsiau ar-lein, am ddim, i grwpiau o staff o’r un asiantaeth, gyda rhwng 10 a 20 ym mhob sesiwn, a bydd yn ‘tweaking’ cynnwys y sesiynau canolradd ar gyfer y rheini sy’n canolbwyntio ar fudd-daliadau, gofal cymdeithasol, tai neu ofal iechyd.
Mae gwefan Dangos yn rhoi rhagor o fanylion ac yn galluogi pobl i gofrestru, yn unigol, ar gyfer sesiynau. Y wefan yw: www.dangos.cymru a www.dangos.wales.
Gan gydnabod pa mor aml y mae cynlluniau cymorth yn newid, i adlewyrchu materion cynyddol, rydym hefyd yn dod o hyd i ffyrdd o ddarparu cymorth a chefnogaeth barhaus.
Mae hyn yn cynnwys fforwm i bawb sy’n pryderu am faterion ariannol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau dyddiol cryno a lle i holi am faterion ac i rannu syniadau. Dyma hefyd lle gellir lawrlwytho holl becynnau gwybodaeth a sleidiau sesiwn Dangos.
Rydym yn gofyn i chi annog eich staff a’ch gwirfoddolwyr, lle bo’n briodol, i gymryd rhan yn y fenter bwysig hon. Drwy fod ychydig yn fwy ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael a’r math o deuluoedd a all fod yn gallu ei gael, gallant wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.
Bydd elfen loywi’r sesiynau canolradd yn arbennig o ddefnyddiol lle mae’n bosibl nad yw staff yn gwbl ymwybodol o’r newidiadau eang sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf (ac mae am ddim!).
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn sesiynau mewnol, cysylltwch â ni: info@dangos.cymru neu info@dangos.wales.
Gallwch wneud cais am sesiynau mewnol yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r ffurflen yma