Mae Anabledd Dysgu Cymru yn chwilio am Reolwr Datblygu Busnes

Oriau a lleoliad: 22.5 awr yr wythnos y gellir eu gweithio’n hyblyg dros yr wythnos. Gallwch fod yn gweithio yn ein swyddfa yn Llanisien, Caerdydd a gallwch hefyd weithio rhai o’ch oriau o’ch cartref. Fodd bynnag, os na allwch deithio i’r swyddfa, gallwch fod yn weithiwr cartref.

Cyflog: Cyflog blynyddol gwirioneddol o £24,407 yn codi drwy gynyddiad blynyddol i £25,630 yn seiliedig ar 22.5 awr yr wythnos (cyfwerth ag amser llawn £40,136 yn codi i £42,147).

Y rôl: Bydd yn arwain ar ymchwilio, datblygu, dylanwadu a sicrhau cyllid newydd.  Fe fyddwch yn:

  • meddu ar gefndir mewn gweithredu strategaethau cyllido a chyrraedd targedau cynhyrchu incwm.

  • gallu mynd ati i adeiladu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda chyllidwyr, rhoddwyr, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol

  • bod â hanes llwyddiannus o gael grantiau a rhoddion o ansawdd uchel

  • hunan-ysgogol

  • meddu ar ddealltwriaeth dda o’r cyfleoedd a’r rhoddion cyllido sydd ar gael i elusennau yng Nghymru a phrofiad o adnabod rhai newydd.

Dyddiad cau: Dydd Llun 24 Mehefin 2024

I ddarganfod rhagor am yr hyn y gallwch ddisgwyl gennym, a sut i wneud cais ewch i'n gwefan.

Previous
Previous

Get Cooking: The courses designed to help families make nutritious meals on a budget

Next
Next

Learning Disability Wales is looking for a Business Development Manager