Ymgynghoriad ar fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid

Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar beth mae pobl ifanc yn ei feddwl - helpwch nhw i ymateb i'n hymgynghoriad.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ar fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 10 Ionawr 2025. Efallai eich bod eisoes wedi ymateb neu'n bwriadu ymateb fel unigolyn neu fel rhan o ymateb ar y cyd gan eich sefydliad. 

Er mwyn i bobl ifanc fod ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth lawn o'r newidiadau hyn, a chael yr hyder i rannu eu profiadau a'u barn eu hunain gyda Llywodraeth Cymru, mae angen eich cefnogaeth chi arnom fel gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid ac eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc ledled Cymru, i'w hannog i roi eu safbwynt.

I'r perwyl hwn, rydym wedi datblygu pwyntiau trafod i bobl ifanc yn seiliedig ar rai o nodweddion allweddol y fframwaith statudol newydd arfaethedig. Byddem yn eich cynghori i ddarllen y rhain ochr yn ochr â'r cynigion a'r ddogfen ymgynghori. Dyma rai pwyntiau trafod posibl, felly, ond efallai yr hoffech ymchwilio i agweddau eraill ar y fframwaith gyda'r bobl ifanc yn eich sefydliad, yn dibynnu ar eu diddordebau a'u profiadau. 

 https://www.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-yng-nghymru-cyflawni-dros-bobl-ifanc

Previous
Previous

Consultation on a new statutory framework for youth work

Next
Next

Fixed-Term 2025 Seasonal Job Opportunities With UWC Atlantic